Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 1 Mai 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(128)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth - sesiynau cwestiynau wedi'u haildrefnu (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26 a 26A mewn perthynas â'r Cyfnod Ailystyried (5 munud) 

 

NDM5226 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 26 a 26A: Y Cyfnod Ailystyried’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2013; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26 a 26A, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI3>

<AI4>

4. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21 a 27 mewn perthynas â Chyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol (5 munud) 

 

NDM5227 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21 a 27: Cyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2013; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI4>

<AI5>

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 29 a 30 ar Gydsyniad mewn perthynas â Biliau Senedd y DU (5 munud) 

 

NDM5225 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 29 a 30: Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2013; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 29 a 30, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI5>

<AI6>

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM5216 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau’r GIG yn gwneud hynny'n gyfrifol.

 

2. Yn gresynu at effaith andwyol ymddygiad anghyfrifol ymhlith cleifion gan leiafrif o bobl sy'n defnyddio GIG Cymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i annog cleifion i beidio ag ymddwyn yn anghyfrifol a hyrwyddo mwy o gyfrifoldeb ymhlith y rhai sy'n defnyddio’r GIG.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu y gwastraffwyd gwerth amcangyfrif o £21.6 miliwn o feddyginiaethau ledled Cymru yn 2011/12 ac yn croesawu’r ymgyrch ddiweddar a lansiwyd gan fyrddau iechyd lleol Cymru i leihau gwastraffu diangen ar feddyginiaethau.

</AI6>

<AI7>

7. Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM5224 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:

 

a) etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;

 

b) goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;

 

c) ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a

 

d) atebolrwydd ariannol Byrddau Iechyd Lleol yn uniongyrchol i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu ‘roi’r cylch gwaith i’r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:’ a rhoi yn ei le ‘gynnwys yng nghylch gorchwyl y Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus y diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG ac a fyddai modd mynd i'r afael â hyn drwy:’

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:

 

‘rôl y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn nhrefniadau atebolrwydd ariannol GIG Cymru.’

 

[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu is-bwynt d)

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

‘mabwysiadu manyleb safonol o’r sgiliau, y profiad a’r doniau a fyddai’n ofynnol i aelodau sy’n cael eu hethol i bwyllgorau gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned;’

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

‘gofyniad ar fyrddau iechyd lleol i gyhoeddi manylion pob eitem o wariant sy’n fwy na £500 (ar wahân i gostau staff unigol) ar-lein ar gyfer craffu cyhoeddus’.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

‘rôl mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.’

</AI7>

<AI8>

8. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) 

 

NDM5228 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod yn rhaid i gymorth i safonau ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol ganolbwyntio ar alluogi pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial a rhoi'r pwer i ysgolion ysgogi cynnydd mewn safonau.

 

2. Yn nodi bod dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn pwysleisio y gellir codi safonau mewn ysgolion ar sail disgyblion unigol pan fydd ysgolion yn canolbwyntio ar drywydd eu disgyblion gymaint ag ar eu safon gyrhaeddiad absoliwt, gyda'r defnydd priodol o werthuso a monitro mewnol.

 

3. Yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn cyflwyno adroddiad ar ba mor effeithiol y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion â chefndir mwy cefnog.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) datblygu rhaglen monitro disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i dargedu ymdrechion at y disgyblion hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial;

 

b) cynyddu'n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion a sicrhau bod ysgolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i sut y mae'r cyllid hwn wedi'i wario, i annog atebolrwydd, targedu effeithiol a rhannu arfer gorau; ac

 

c) diwygio'r system ar gyfer bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol o ran perfformiad disgyblion unigol, gan gynnwys ailstrwythuro'r system i ddangos mor dda y mae ysgolion yn cyflawni wrth gynorthwyo disgyblion i gyrraedd eu potensial eu hunain.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘disgybl' cynnwys, ‘ni waeth beth fo'i gefndir na'i allu,’.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1 ychwanegu ‘a chyrff addysgol’ ar ôl ‘rhoi pwer i ysgolion'

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 3.

 

Gwelliant 4 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 4

 

[Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliannau 5, 6, 7, 8, 9, a 10 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 4a) a rhoi yn ei le:

 

‘Galluogi ysgolion i fesur cynnydd disgyblion yn gyson ar draws y wlad, gyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl.’

 

[Os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 6 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 4a) dileu ‘datblygu’ a rhoi ‘hyrwyddo’ yn ei le.

 

Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 4b) a rhoi yn ei le

 

‘ystyried cyllid i’r dyfodol ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn seiliedig ar ddadansoddiad Estyn o'i effeithlonrwydd a thystiolaeth berthnasol arall’

 

[Os derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt 4b), dileu popeth cyn ‘wedi’i wario’ a rhoi yn ei le ‘Sicrhau bod ysgolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i sut y mae’r cyllid’.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt 4c), dileu popeth ar ôl ‘disgyblion unigol,’.

 

[Os derbynnir gwelliant 9, bydd gwelliant 10 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 10 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 4c)

 

‘, a hyrwyddo cydweithio cyn cystadlu’

</AI8>

<AI9>

Cyfnod Pleidleisio

</AI9>

<AI10>

9. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5215 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Adeiladu Rhwydwaith Ffyrdd Gwledig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain: Yr achos dros wneud gwaith deuoli ar yr A40 yn Sir Benfro

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 7 Mai 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>